Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Tachwedd 2017
Amser:
09.01 -
13.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4317
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Alistair Davey, Llywodraeth Cymru Carol Shillabeer, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Yr Athro y Fonesig Sue Bailey, Academy of Medical Royal Colleges Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Nia Evans, Cynghorydd Polisi Iechyd ac Iechyd Meddwl, Comisiynydd Plant Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru ynghylch y gyllideb ddrafft.
2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog i ddarparu nodyn ar:
· y broses a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i ganfod a yw'n briodol cynnal Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn hytrach nag Asesiad Effaith Integredig, yn enwedig yng nghyd-destun y Gyllideb Ddrafft;
· y rhagolygon cyllid ar gyfer rhaglenni Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau'n Gyntaf; a
· rhagor o wybodaeth am dystiolaeth y Gweinidog am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda phum awdurdod lleol peilot a banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw mewn perthynas â gwerthuso canlyniadau Dechrau'n Deg.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carol Shillabeer a'r Fonesig Sue Bailey.
3.2 Cytunodd Carol Sillabeer i ddarparu nodyn ar y canlynol:
· cyfeiriadur arfer gorau ar gyfer ffrwd gwaith Cydnerthedd, Llesiant a Blynyddoedd Cynnar, a gyhoeddwyd ar y cyd â'r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar;
· gwybodaeth am gyfranogiad byrddau iechyd wrth gomisiynu darpariaeth eiriolaeth gyffredinol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac a oes darpariaeth Cymru gyfan;
· faint o blant yng Nghymru sy'n aros yn hwy na 26 wythnos ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, fesul bwrdd iechyd lleol;
· cyfraddau staffio presennol (WTE) a chyfradd swyddi gwag CAMHS arbenigol ym mhob Bwrdd Iechyd a sut mae'r ffigurau hynny wedi newid ers dechrau'r rhaglen ac ar draws gwahanol grwpiau;
· lefel buddsoddiad y Byrddau Iechyd ar gyfer ehangu darpariaeth therapïau seicolegol, faint o swyddi arbenigol WTE ychwanegol a grëwyd a beth yw effaith hyn ar wella mynediad at therapïau seicolegol;
· effaith cymorth y tu allan i oriau/mewn argyfwng ar leihau nifer y cleifion mewnol;
· data ar dderbyniadau i ofal cleifion mewnol fesul lleoliad cleifion mewnol, gan gynnwys adrannau damweiniau ac achosion brys, wardiau pediatrig a wardiau oedolion, a derbyniadau i ofal cleifion mewnol y tu allan i Gymru;
· gwybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngwent i leihau derbyniadau i adran damweiniau ac achosion brys.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Plant.
4.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn ar y canlynol:
· ei gohebiaeth ag Ysgrifenyddion perthnasol y Cabinet ynghylch hyd a lled y gwaith partneriaeth rhwng T4CYP a rhaglenni diwygio'r cwricwlwm, gan gynnwys copi o'r papur a gyflwynodd i grwpiau ymgynghorol T4CYPP a Donaldson;
· ei hymateb i Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol , sef Papur Gwyn Llywodraeth Cymru;
· crynodeb o unrhyw wybodaeth gwaith achos/astudiaethau achos y tynnwyd sylw ei swyddfa atynt mewn perthynas ag anawsterau plant a phobl ifanc wrth gyrchu gofal mewn argyfwng.
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn. Caiff adroddiad drafft ei ddosbarthu i'r Aelodau.